Barbara Ehrenreich | |
---|---|
Ganwyd | Barbara Alexander 26 Awst 1941 Butte, Montana |
Bu farw | 1 Medi 2022 o strôc Alexandria, Virginia |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ysgrifennwr, hanesydd, nofelydd, awdur ysgrifau, ymgyrchydd heddwch, gwleidydd, imiwnolegydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, awdur, gweithredydd gwleidyddol, ffeminist |
Cyflogwr | |
Priod | John Ehrenreich |
Plant | Rosa Brooks, Ben Ehrenreich |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, dyneiddiwr, Gwobr Pedwar Rhyddid - Rhyddid rhag Eisiau, Gwobr Erasmus, Eugene V. Debs Award |
Gwefan | http://barbaraehrenreich.com/ |
Awdur a newyddiadurwraig Americanaidd oedd Barbara Ehrenreich (ganwyd Barbara Alexander, 26 Awst 1941 – 1 Medi 2022).
Ganed Barbara Alexander yn Butte, Montana, i deulu dosbarth gweithiol. Derbyniodd ei gradd baglor o Goleg Reed yn Portland, Oregon, ym 1963 a'i doethuriaeth mewn bioleg cell o Brifysgol Rockefeller yn Efrog Newydd ym 1968. Gweithiodd yn ddadansoddwr cyllideb, yn aelod o'r Ganolfan Cynghori Polisi Iechyd, ac yn isddarlithydd i Raglen y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Daleithiol Efrog Newydd yn Old Westbury. Ymddiswyddodd o'r byd academaidd ym 1974 i fod yn awdur llawn amser.[1]
Thema sy'n rhedeg trwy ei hysgrifiadau yw mai chwedl ddifrifol yw'r freuddwyd Americanaidd. Mae pynciau nodweddiadol ei hysgrifau a'i llyfrau yn cynnwys y farchnad lafur, gofal iechyd, tlodi, a sefyllfa menywod.
Enillodd Wobr Erasmus yn 2018.[2]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search